Capel Fron, Penrhyndeudraeth

Pwy Ydan Ni?

 

Rydym yn eglwys annibynnol sy'n credu’r Beibl a sydd wedi bod yn weithgar yn ardal Porthmadog a Phenrhyndeudraeth ers 1975. Yr ydym yn cynnwys pobl hen ac ifanc, siaradwyr Cymraeg a Saesneg ac yr ydym yn bodoli i ogoneddu Iesu trwy fyw bywydau sy'n ei anrhydeddu a dweud wrth eraill amdano.

 

Beth Ydan Ni'n Credu?

Y gwirioneddau hanesyddol sy’n ymwneud â Christnogaeth Feiblaidd. Mae'r un Duw a greodd popeth wedi caru dynoliaeth euog a gwrthryfelgar a’i fod wedi yn anfon ei fab, yr Arglwydd Iesu Grist i farw yn ein lle i dalu'r gosb am ein pechodau. Mae Iesu wedi codi o'r meirw, bydd yn dychwelyd mewn ogoniant. Mae’n Frenin ar y bydysawd a bydd angen i bawb blygu iddo. Mae angen i bob un ohonom ymateb i Iesu mewn edifeirwch a ffydd. Pan fyddwn yn gwneud hyn mae Duw yn rhoi bywyd newydd i ni drwy ei Ysbryd Glân ac rydym yn dod yn rhan o deulu Duw, yr Eglwys.

 

Beth Ydan Ni'n Ei Wneud?

Rydym yn cyfarfod gyda'n gilydd ar ddydd Sul i addoli Duw trwy ganu, gweddïo, gwrando ar ddarlleniad ac esboniad o’r Beibl, ac annog ein gilydd yn ein ffydd. Rydym yn cynnal Ysgol Sul a gweithgareddau i bobl ifanc yn ystod yr wythnos. Gweddïwn yn rheolaidd dros bobl ein hardal. Rydan ni'n cynnal digwyddiadau blynyddol fel ein Holiday Bible Club a Swper Cynhaeaf. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau i bobl ganfod beth ydy Cristnogaeth go iawn, fel ein cyfarfodydd ‘Darganfod’.

Rydym wedi bod yn cymryd gwasanaethau pnawn Sul ym Madog a Hafod y Gest (Porthmadog) ers blynyddoedd lawer.

Rydym yn trefnu apêl bocs Nadolig i blant Penryn yn ogystal i Capel Fron.

 

Ar Gyfer Pwy Ydan Ni?

Mae croeso i unrhyw un ddod ato ni i ddarganfod mwy am Iesu Grist!

Dewch o hyd i ni ar Facebook trwy'r ddolen eicon Facebook isod neu os ydych chi am gysylltu â Pete Campbell, gweinidog Capel Fron, yna dilynwch y ddolen e-bost isod.

Dewch o hyd i ni ar Facebook trwy'r ddolen eicon Facebook isod neu os ydych chi am gysylltu â Pete Campbell, gweinidog Capel Fron, yna dilynwch y ddolen e-bost isod.

Teulu Facer yn ein bendithio â chân werin yn un o’n Gwasanaethau Darganfod/ Discover.

Teulu Facer yn ein bendithio â chân werin yn un o’n Gwasanaethau Darganfod/ Discover.